skip to main content

Pori'r archifau

XM/166/79.

LLYTHYR: W.E. Davies, Cardigan P.E.I, Canada at ei gefnder yn diolch am y llythyr o gydymdeimlad yn eu profedigaeth o golli ei dad-yng-nghyfraith. Yn cydymdeimlo ag ef fod dim proffit mewn amaethu yng Nghymru ac yn dweud mai digon tebyg yw pethau yn Canada, yr amser gwaethaf a welsant yno er pan i’r Ynys gal ei phoblogi tua 250 mlynedd yn ol. Pris mochyn yn pwyso 186 o bwysau yn mynd am ddim ond £1.16s.0d. a thatws yn gwerthu am 5 ceiniog am ddau bwys a hanner. Ond er hynny mae’n well yno na llawer lle a’r ffermwyr yn tyfu popeth mewn ffordd o ymborth ac eithro te a siwgwr. Mae’r eira yn drwchus yno a rhaid teithio i bobman ar "sleigh". Yr oedd ganddo angladd ddydd Mercher, 9 milltir i ffwrdd o’r Manse, golygai hynny 18 milltir yn ol a blaen mewn "sleigh". Y diwrnod cynt bu 10 milltir at oedfa 3 o `r gloch. Pan gyrhaddodd llythyr ei gefnder yr oedd ef ar daith pregethu yn Nhalath Ontario tua 1000 o filltiroedd i ffwrdd. Cafodd cynnulliadau da yno ond ni chwrddodd a dim ond un Cymro sef bachgen o Ffestiniog, yn gweithio ar fferm yno. Cafodd gyfle hefyd i groesi’r St. Lawrence i New York State a chafodd ginio gyda brawd o Lanerchymedd, Sir Fon, a oedd yn Weinidog Presbyteraidd yno ers 25 blwyddyn ac yn adnabod Richards, hen weinidog Capel Coch yn dda. Yn dweud y dull mae’r Cyfarfodydd Misol yn cal eu cynnal yno.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.