skip to main content

Pori'r archifau

XM/166/70.

LLYTHYR: William Griffith, 44 St. Bernard’s Road, East Ham, London, E. at ei nai yn diolch am ei lythyr teimladwy, mae Annie yn gwella erbyn hyn. Mae’n bwriadu ysgrifennu at Twm ei gefnder yn Vermont. Yn falch o ddeall fod amgylchiadau ei nai yn llewyrchus. Yn holi am rai o’r teulu ac os y byddant yn cal gweinidog newydd y bydd yn "welliant ar Mr. Rowland". Bu iddo siomant yr wythnos gynt pan fethodd Lloyd George a dod yno i agor Bazaar at helpu eglwysi East Ham a Woolwich, ac yntau wedi disgwyl cael ei glywed am y tro cyntaf. Daeth gwraig Lloyd George yno yn ei le. Bu Ben Bedward farw yn sydyn y flwyddyn diwethaf. Mae Lloyd George wedi ei benodi yn olynydd i Syr John Puleston fel Ceidwad Castell Caernarfon, a dyma ddwy linell a glywodd ar amgylchiad arall cyfaddas i Lloyd George: "Uwch, uwch, uchach yr el. Eistedded yn nghadair Angel" neu gadair Prif Weinidog Prydain Fawr. Yn dweud ychydig mwy o hanes y teulu ac yn anfon ei gofion.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.