XM/166/60.
LLYTHYR: William Griffith, 27 Friars Road, East Ham, London, E. at ei chwaer a’i frawd i ddiolch am yr hwyaden a’r wyau a ddaeth i law. Yn son am farwolaeth "Coch yr Ali" ac yn cydymdeimlo a Twm ei gefnder a’r teulu ar farwolaeth ei ferch yn yr America. Mae’n dweud fod John Bedward yn New York. Yn gofyn a ydyw Hugh Williams wedi dod i Coed y ddol, Saron, Yn mynd a’i eneth bach i’r Capel Cymraeg bob bore Sul, ac y mae ef wedi cydsynio i lenwi’r swydd o flanor ar ol llawer o berswadio. Yn ddiolchgar iawn i Polly am anfon newyddiaduron Cymrag iddo. Yn anfon ei gyfarchion ac yn amgau dolen o’r Drych.