skip to main content

Pori'r archifau

XM/166/56.

LLYTHYR: William Griffith at ei fam, Mrs. Griffith, Greuor, Llanfairisgaer, yn diolch am ei llythyr ond buasai’n well ganddo glywed mewn amgylchiadau mwy cysurus. Mae`n ofid calon ganddo fod Griffith mor wael a thlawd ac yn anfon P.O. iddynt a’i gydymdeimiad. Mae ef mor gysurus a sydd bosibl i ddyn fod mewn unigrwydd. Yn anesmwyth am Ellen ei chwaer am nad yw wedi clywed oddi yno ers tro. Fe roedd Griffith Ceidiog Roberts, Llanllyfni yn pregethu yno y noswaith gynt, ac yn dweud fod William Griffith, ei gefnder o Benygroes, yn wael iawn a bod teulu Appi Forum yn lled dda a’r hen wraig yn fyw o hyd. Yn anfon ei gyfarchion at y teulu oll.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.