skip to main content

Pori'r archifau

XM/166/38.

LLYTHYR: William Griffith, 63, Mellish Street, Milwall, London, at ei fam, Mrs. Griffith, Greuor, Llanfairisgar. Wedi bod yn meddwl amdani ar ei phenblwydd yn 71 mlwydd oed ar y 3ydd o Chwefror. Mae wedi gorffen gweithio gyda dyn o’r enw Griffiths ar ol tair wythnos ac wedi cal gwaith gyda Cymro o’ r enw Stephens mewn gwaith haiarn. Efallai na phery y gwaith yma yn hir ond y mae mewn addewid o waith arall mewn ychydig wythnosau. Yn anfon cofion atynt yn y Greuor, Pen y Ceunant, a Griffith a’i deulu, ac yn gofyn iddynt anfon Y Genedl Gymraeg iddo. Yn falch o glywed fod Polly a Hugh wedi enill gwobrau yn y cyfarfod llenyddol, ac yn eu cynghori i ymdrechu bob blwyddyn gan iddo ef ddysgu llawer yng nghyfarfodydd Llenyddol Llanberis.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.