XM/166/18.
LLYTHYR: T.J. Roberts, Poultney, Vermont, at ei fodryb ar ddymuniad ei fam. Soniodd ei dad lawer gwaith cyn ei farwolaeth y dylid anfon arian i’w fodryb am y stwff pais a anfonodd iddynt peth amser yn ol, ac y mae ef yn awr yn gyrru draft o £2 iddi ac yn ei chynghori i fynd ac ef i’r banc i’r dref. Bydd Robin y Stabla yno yn aml ac yn cofio atynt. Mae’n dweud am y gwaith mae ei frodyr a’i chwiorydd yn ei wneud ar y pryd. Mae ganddynt 20 o "forders" wedi bod yno trwy’r Haf. Bu iddo weld Erasmus Davies, yr hwn sydd yn hapus iawn yno, ac y mae yno lawer iawn o Lanberis yn byw.