skip to main content

Pori'r archifau

XM/166/15.

LLYTHYR: John Roberts (Shon Gloff) gynt o Lanberis, o Rutland, Vermont, at ei nai, William Griffith, a’r teulu oll. Mae wedi darllen eu llythyr drosodd a throsodd. Mae’n poeni fod ei nai yn wael mor aml ac yn ei gynghori i yfed "1/2 peint o lefrith o bwrs y fuwch bob bore". Mae’n son am ei nai, Robert, brawd William, ac yn pitio yn arw ei fod wedi mynd i’r "Class isaf ers talwm ac yn feddwyn cyhoeddus hyd y stryd yn Lerpwl". Mae`n dychryn wrth feddwl fod Jane yn mynd i fagu plant Bragan ac yn son am y teulu hwnw. Mae`n meddwl yn aml am y coed a blanodd gartref ac yn tybio a ydynt yn tyfu ar hyd y bryn. Mae’n diolch am y stwff i wneud pais a gafodd ei wraig o achos nid oes ond "Cotton" i`w gal yno. Mae’n son fod gwerth yr aur yn uchel yno, sef £1.6s.0d. a dim ond £1.0s.0d. ym Mhrydain. Mae’n byw mewn ty lled fawr sydd yn costio 150 o ddoleri y flwyddyn. Mae deuddeg yn lletya yno, rhai o Lanrug, Llanberis, Llanbabo, Llandwrog a Bethesda, a chyda Will, John ac Ellis, yn gwneud pymtheg a’r oll yn talu pedair dolar yr wythnos am eu lle yn cynnwys bwyd a’u golchi, ac yn golygu digon o waith i Mari a Catrin. Daeth Jemeima a Jane yno ym mis Gorffennaf. Aeth Jemeima yn ol fel "waitress" i Saratoga 45 milltir i ffwrdd, ac yn derbyn 14 o ddoleri y mis, ond arhosodd Jane gartref i helpu gyda’r gwaith ty. Mae’n enwi’r bwyd da a fwytawyd ganddynt a hwythau yn "treio gwneud yr un fath a’r Yankees". Talodd 80 doler am fuwch ym mis Mawrth ac y mae dodrefnu y ty wedi costio arian mawr ac yntau heb waith ond am 4 mis yn y gaeaf. Mae gwaith yn brin yno i` r chwarelwyr ers Tachwedd 1869 a’r cyflog ond 2 doler y dydd. Mae ei fab, Robert, wedi aros yn New York lle y mae’n cal cyflog mawr o dros £3.10s.0d yr wythnos. Mae ganddo acer o dir a miloedd o "cucumbers" yn tyfu yno. Yn anfon ei gyfarchion at y teulu.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.