skip to main content

Pori'r archifau

XM/166/14.

LLYTHYR: John Roberts (Shon Gloff). gynt o Lanberis, o James Villa, Poultney, Vermont, at ei nai William Griffith. Yn holi pwy o’r teulu sydd wedi priodi. Yn dweud mai yn America y bydd ef farw o achos fod y siwrna yn rhy bell a chostus iddo ddod yn ol i Gymru. Nid yw am ysgrifennu llawer o achos bydd iddynt gal y fantais o holi y "Dygedydd G. Griffiths a gafodd ei fagu yn Tyddyn Charlas" ac fe esboniai ef iddynt pam fod y lle yn cael ei alw yn "James Villa". Mae’n dweud mor fawr yw America "digon mawr i Holl Frydain dyfod yma eto". Mae’n boeth iawn yno yn yr Haf ac yn oer ofnadwy o Ragfyr hyd mis Ebrill. Nid yw yn hoffi y wlad gystal a Chymru ond mae`r hogia yn ei hoffi yn well. Y gwir yw fod y bwyd llawer gwell yno a’r arian yn well o’r hanner am weithio ond nid yw gwaith yn sefydlog iawn a gwan ofnadwy yw y chwareli yno y flwyddyn hono. Daeth y genod drosodd mewn deuddeg diwrnod a daeth Mary yno o New York, bron i 300 milltir o siwrne. Cyflogwyd Jemeima a Jane yn New York. Jemeima fel "waitress" a Jane yn "lady’s maid". Mae William yn ymadael i weithio i foundry yn New York, a Twm yn Pensylvania, 400 milltir i ffwrdd a John ar y railway. Felly dim ond Ellis, Catrin a Mary sydd gartref. Mae’n anfon ei lun at ei nai er mwyn iddo ei gofio. Yn son ei fod wedi anfon arian at ei Ewyrth Robert trwy ei fab, sef arian at ei gost yn anfon y teulu i Lerpwl, ac wedi anfon lliain i Mary, ei chwaer, am ei thrafferth. Yn anfon ei gofion at y teulu i gyd.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.