skip to main content

Pori'r archifau

XM/166/12.

LLYTHYR: J. Roberts, Stern Mill, Llanberis, at ei nai. Mae’n rhoi hanes ei deulu - Tom yn gweithio yn Chwarel y Glynn ers dau fis, John yn gweithio ar bont Rhyd Ddu ers pedwar mis ac yn cal 2s.0d y dydd, a’r tri arall yn yr ysgol. Nid yw yn gwybod yn lle mae William ond dywedodd Robert wrtho ei fod yn gweithio ar "bont rel-we ger Newport" pan oedd yno ym mis Medi. Yr oedd Margaret wedi bod yn yr Hafodty yn talu rhent y diwrnod cynt, ac wedi bod yn holi am garreg fedd i dad ei nai. Mae Mary wedi addo £2.10s.0d. ati "ac y mae hyn yn ddigon i gal carreg a gwaith bricks odani - oni fyddai yn well cal math o "Tomb" o £4 i £5 pedwar square - fel na fyddai eisiau ei chwalu ailwaith". Mae’n siomedig fod ei nai wedi anghofio ei Gymraeg, a’r teulu adref yn by war uwd i swper, ac yn byw yn dlawd ar ol ei godi ef yn siopwr. Yn dweud wrth Robert y dylai ystyried bob dimau a waria a chofio am ei frawd William gyda dim ond un par o sgidiau i wisgo, ac i gofio am ei fam hefyd. Yn deall fod G.E. Williams yn gyfaill iddo ac yn fawr obeithio bod ei nai yn ddigon o ysgolhaig i’w ganlyn. Yn falch o ddeall fod Griffith yn dod yn ei flaen yno. Hoffai ei weld fel "foreman" yno yn lle yr hwn sydd ganddynt. Yn gofyn iddo geisio gael 2ft. rule iddi yn y "pawn shop" am rhyw 1/-. Maent yn costio 2/6d. yn newydd. Bu i ddau ddyn eu lladd yn y chwarel y diwrnod cynt, sef Will, mab Will Dywyll, ac Edmund, y ddau wedi priodi dwy chwaer, sef merched i Will y Sir. Mae’n son am W.D.W. wedi cael canwyllbren newydd sbon i ganwyll frwyn, ac yn rhoi newyddion lleol eraill.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.