XM/166/11.
LLYTHYR: John Roberts, Bryn Rhydd, Llanberis, at ei nai, Robert Griffith, yn diolch am ei lythyr saesneg ac yn falch ei fod yn arfer yn y Post Office. Bu yn Pen y Ceunant y diwrnod cynt ac y maent yn agor Capel Coch y diwrnod hwnnw "a William dy frawd yn dechrau o flaen y pregethwyr". Mae son am fam Robert yn symud i fyw i dy newydd. Bu Will, mab Shon William, Bryn Coch, syrthio yn y Chwarel ddydd Gwener, 11eg o Fawrth a bu farw yn yr Ysbyty y noson hono. Yn gofyn iddo geisio cal swydd mewn siop i Hugh H. Owen, Dinorwic House, sydd bron yn rhy wan i weithio yn y Chwarel, lle mae yn cal dim ond £3 y chwarter er ei fod yn 17 mlwydd oed.