XM/3321/14.
LLYTHYR: Thomas W. Jones [yn yr Amerig] at ei chwaer [yng Nghymru]. Mae Ann Lewis wedi gwella. Ni welodd W Rowlant eto. Nid yw’n debygol y gwêl ei chwaer eto gan eu bod yn mynd yn hen. Mae yn ddiolchgar i Dduw am ei ofal trosto. Y mae ganddo forwyn dda. Cyfarwyddiadau ar ymddygiad gweddus i’w ddwy nith. Y tywydd, prinder dwr, hanes y cynnyrch a’r anifeiliaid a chyflogau. Hanes eu hewythr Hugh Williams a’i deulu, ac eraill o’r Cymry yno. Cofia fel y byddai ei wraig am ei chofio at Elysabeth Pen y Graig ar ddiwedd pob llythyr.