skip to main content

Pori'r archifau

XM/3321/10.

RHAN O LYTHYR: [Thomas Jones ?yn yr Amerig] at ei frawd a’i chwaer [yng Nghymru]. Bu farw ei wraig y flwyddyn gynt a’i unig ferch ymhen 8 mis iddi, yn 28 oed, rhodda hanes ei brofedigaethau: Derbyniodd eu llythyr dyddiedig 26 Ebrill, 1854. Mae yn cofio atynt. Gwas fferm da ganddo ers 5 mlynedd. Amlinelliad o’i eiddo. Mae’n debyg ei fod rhy hen i fynd i’w’ gweld. Edrycha ymlaen at ei farwolaeth i gael bod gyda’i briod a’i ferch eto. Mae yn 63 oed. Cofion atynt oddiwrth Gymry eraill. Y tywydd sych, cynheuaf a prisiau a chyflogau yno. Maent yn adeiladu ffyrdd haearn o’i’ amgylch.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.