skip to main content

Pori'r archifau

XM/3321/6.

LLYTHYR: Twm Pen y Graig yng Nghaernarfon at ei dad a’i fam, sef Mr. John Williams ym Mhen Graig, pl. Bodferin ger Pwllhelly. Dywed ei fod yn mynd i Fangor y dydd olynol i ymuno â’r llong "Sara and Mary" am gyflog o £2.9.0 y mis. Mae’r llong yn llwytho am Lundain ag Owen Edwards yw’r Capten.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.