skip to main content

Pori'r archifau

XM/4948/178.

LLYTHYR: Morgan a Gwen, Board School, Bethel i "annwyl deulu." Mae’r tywydd mor boeth fel nad yw’n gwneud y nesa peth i ddim yn yr ysgol gyda’r plant ond mae’n fyw hyd yn hyn er gwaethaf y gwres. Maent wedi cyrraedd adref yn ddiogel gyda’r gath ond ychydig iawn mae hi wedi dofi. Maent yn cael tywydd braf i Eisteddfod Llanrwst. Mae Eisteddfod y Borth i fod yr wythnos nesaf ac i barhau am 4 diwrnod ac mae Jane wedi addo dod yno yr adeg honno. Maent yn eu disgwyl ac am gau yr ysgol i fynd yno. Mae ei dad dal yn ddrwg. Gobeithia bod iechyd pawb yn bur dda yn enwedig Gwen.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.