skip to main content

Pori'r archifau

XM/4948/144.

LLYTHYR: R.T.R, Brynsardis yn Tain-y-Foel at `annwyl deulu’. Mae’n ddrwg ganddo eu hysbysu bod Mr. Thomas wedi eu gadael. Maent yn bwriadu ei gladdu dydd Sadwrn yr l6eg. ym mynwent Bethel gan gychwyn hefo’r corff am 12.30 y.h. Mae Gwen ac Annie bach yn gystal a’r disgwyl dan yr amgylchiadau. Mae Mrs. Davis yn dymuno i Jane Davies ddod yno y diwrnod canlynol gan ei bod hi mor brysur yno. Mae’n gofyn os gwyr hi lle mae John gan ei fod wedi mynd oddi yno ddydd Sadwrn ac nid ydynt yn gwybod i ble.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.