skip to main content

Pori'r archifau

XM/4948/137.

Feb.26LLYTHYR: Morgan a Gwen, Bryn Sardis, Dinorwic at `annwyl gyfneither.’ Holi am ei hiechyd. Mae’n debyg bod Anie bach a Johney wedi derbyn y `Falantines’ a anfonwyd gan y llythyrwr ac mae’n gobeithio bod John ei brawd wedi derbyn y `music’ a anfonodd i Hugh Penrhes. Roedd wedi meddwl anfon y llythyr y diwrnod cynt ond yna wedi meddwl y derbyniai lythyr gan Jane. Roedd Thomas wedi dweud wrtho ei fod yn meddwl y byddai y concert ar y Sadwrn olaf o’r mis a phe bai y Sadwrn nesaf y byddai wedi cael llythyr ganddi. Maent wedi dechrau gweithio 6 diwrnod yn y chwarel ers yr wythnos hon ac mae yr Eglwys wedi ei hagor ers y Sul diwethaf. Mae’n cofio atynt oll.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.