skip to main content

Pori'r archifau

XM/4948/111.

LLYTHYR: J.T. Evans, 17 Landsur Rd, Everton, Lerpwl at Thomas Davies (drover), 58 Denbigh St, Llanrwst. Nid yw’n deall i’w chwaer wrthod derbyn yr arian. Buasai’n well iddo’i osod am ddim i denant fuasai’n edrych ar ei `ol na’i fod wedi cael rhedeg fel y mae. Nid yw’n derbyn £10 ar ol talu’r trethi. Mae’n well ganddo fod ar ei golled na mynd i gyfraith am yr ychydig yr oedd yn ei ofyn yn ychwanegol i gyfarfod y trethi uchel mae’n dalu ers 3 blynedd. Gan fod T.D. mor `gyndyn a chaled’ mae’n cytuno iddo gael y lle am yr un rhent o £16 ond i J.T.E. gael meddiant ar fai 1.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.