skip to main content

Pori'r archifau

XM/4948/35.

LLYTHYR: Jane a Robert Davies, Prices Terrace, Coed Poeth, Wrecsam at eu brawd a’u chwaer yn dweud eu bod nhw ac Evan a Meyrick yn bwriadu dod i Lerpwl y dydd Sadwrn nesaf am y diwrnod gyda `exgyrsions’ y `gweithydd’ yna. Buasent yn ddiolchgar iddynt os gallent adael i Evan a David gael gwybod eu bod nhw’n dod, am nad ydynt yn gwybod eu cyfeiriad ac mae bob llythyr mae nhw wedi anfon i Evan wedi dod yn ol. Bydd yn dda eu gweld nhw i gyd yn y `station’ yn eu cyfarfod. Mae nhw’n gobeithio eu gweld. Ni fydd ganddynt lawer o amser yn nhy neb ond mae nhw eisiau trio dangos gymaint a phosib i’r hogia gan nad ydynt erioed wedi bod yna. Os na fydd un o’r dynion yn gweithio buasai yn help i fynd a nhw o gwmpas. Byddent ar y Landing Stage o 9 i 9.30.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.