skip to main content

Pori'r archifau

XM/4948/15.

LLYTHYR: Robert Griffith, Bethel i Mrs. Thomas. Dywed ei fod yn cadw ei llythyr dyddiadedig Ion. 25 yn ofalus ar hyd y flwyddyn er mwyn gallu anfon gair pan fydd y gofgolofn wedi ei gorffen. Mae’r gwaith wedi ei gwblhau ac mae’r gofgolofn wedi ei gosod i fyny ers ddoe, Dydd Mawrth y Nadolig. Mae’n brydferth ac wedi costio tua £7. 0s. 0d, roedd rhwng £5 a £6 wedi ei gasglu yn yr ardal a gwnaeth mam-yng- nghyfraith Mr. Thomas y gweddill i fyny. Ar y golofn ceir y geiriad "Er serchog gof am Morgan Thomas, Diweddar Ysgolfeistr Bethel, gynt o Dinorwig, yr hwn a fu farw Tach.12 1879 yn 26 mlwydd oed," gyda phennill gan "Glan Padarn" i ddilyn. Dywed i’r ardal ddangos parch mawr i goffadwriaeth M.T. ac yn barod iawn i gyfrannu. Bydd `ol ei waith ar rai ohonynt tra byddant byw. Mae William Parry, Gorffwysfa wedi bod yn ffyddlon iawn i’r achos. Gwel amser wedi rhedeg ymaith, nid yw ond fel ddoe pan oedd yn ei gynnig i gael ei le ar y School Board gyda Mr. Jones Ebenezer, Pwllheli yn cefnogi. Mae Thomas Hughes y Shop wedi marw gan adael y plant yn iawn.


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.