XM/4948/28.
LLYTHYR: Gwilym R. Tilsley, Estyn, 5 Pendyffryn, Prestatyn, Clwyd at Miss Williams yn diolch am gael gweld rhai o gerddi ei thaid J.O. Roberts. Yn anffodus dywed mai perthyn i’r gorffennol mae’r cerddi gan bod ffasiwn wedi newid ym myd barddoniaeth. Ofna hefyd bod llawer o wallau yn yr englynion. Mae fodd bynnag wedi trwsio un o’r englynion i `Gloch y Llan’ er mwyn ei chynnwys yn Yr Eurgrawn yn ogystal a diwygio peth ar yr Emyn Cymun. Gofyn a’i ffug enw yw `Henderson’ ac am ddyddiadau geni a marw ei thaid. Cred iddo farw tua 1947.