skip to main content

Pori'r archifau

XS3374

Seiri meini a chrefftwyr eraill o Chwarel y Gwylwyr yn adeiladu’ r eglwys newydd yn Nefyn tua 1901-1902. Mae’r gweithwyr yn eistedd tu fewn yn union o dan y ffenestr fawr orllewinol gyda’r brif fynedfa ar y chwith i’r darlun. Dechreuwyd gwneud trefniadau i gael eglwys newydd tra bu’r Parch. R.T. Jones yn ficer y plwyf (1888-1897). Wedi i’r Parch J.J. Ellis ddod yn beriglor yn 1898 y dechreuwyd adeiladu. Cysegrwyd Eglwys Dewi Sant gan Esgob Bangor ym Mehefin 1904. [Stonemasons and other craftsmen from Gwylwyr Quarry building the new churcn in Nefyn around 1901-1902. The workers are sitting inside, directly beneath the western great window with the main entrance to the left of the picture. Arrangements for a new chruch were started while the Rev. R.T. Jones was the parish vicar (1888-1897). The construction work started after the Rev. J.J. Ellis became the incumbent in 1898. St David’s Church was consecrated by the Bishop of Bangor in June 1904.]


Iaith Tudalen

Yn unol ag arfer arferol archifdai yng Nghymru, cyflwynir manylion pob dogfen yn iaith y ddogfen honno. Lle mae'r manylion yn ymddangos yn Gymraeg, Cymraeg yw iaith y ddogfen; ac os yn Saesneg y dangosir y manylion, Saesneg yw iaith y ddogfen honno.