ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL Y MOELWYN, BLAENAU FFESTINIOG
(Cyfun 11 - 16; 335 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer 17 o Ebrill, 2023 neu 1 o Fedi, 2023
PENNAETH CYNORTHWYOL
CYFLOG: L8 – L12 ar y Raddfa Arweinyddiaeth (£53,581 - £59,123).
Mae’r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi Pennaeth Cynorthwyol brwdfrydig a blaengar, fydd yn cefnogi gweledigaeth ac ethos yr ysgol, gydag ymrwymiad i’r disgyblion, y sefydliad a’r gymuned.
Yn ychwanegol at gyfrifoldebau generig aelod o`r UDRH bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am yr agweddau isod:
- Byddai arbenigedd mewn Mathemateg neu Gwyddoniaeth yn ddelfrydol
- Gweithdrediad polisi asesu gan gynnwys trefniadau asesu ffurfiannol a chrynodol.
- Trefniadau adrodd i rieni drwy SIMS.
- Gweithdrefnau tracio a defnydd o wybodaeth tracio fel sail i ymyrraeth effeithiol.
- Y defnydd o ddata sy`n sail i systemau hunanarfarnu yr ysgol.
Mae’r gallu i addysgu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i pholisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth, Mrs Eleri Moss rhif ffôn 01766 830435, e-bost:-
pennaeth@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Ms. Mena Price, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Y Moelwyn, Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3DW, (Rhif ffôn 01766 830435,) e-bost: sg@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 12:00Y.H, DYDD MAWRTH, 14 CHWEFROR, 2023.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
(This is an advertisement for an Assistant Headteacher at Ysgol y Moelwyn for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential)
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.