NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Gallu gweithio’n hyderus mewn tîm ac ar liwt ei hun.
• Brwdfrydedd ag egni i ddatrys problemau.
• Llygad am fanylder a chywirdeb.
• Gonestrwydd, hunan hyder pendant a hyblyg.
• Gallu i dderbyn cyfrifoldebau a chyfathrebu’n effeithiol.
• Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
• Personolaeth ddiplomataidd.
• Perchen ar drwydded yrru ddilys ynghy â defnydd o gar.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Wedi derbyn addysg hyd lefel gradd neu’n dangos profiad perthnasol ar lefel uwch.
DYMUNOL
• Gradd neu cymhwyster cyffelyb mewn pwnc sy’n berthnasol i ofynion y swydd.
• Aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol.
• ECDL neu cymhwyster cyffelyb mewn defnyddio cyfrifaduron.
• Cymhwyster mewn rheoli prosiect e.e. PRINCE2
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Dealltwriaeth a phrofiad o faterion datblygu economaidd, datblygu cymunedol a mentergarwch.
• Profiad o ddatblygu a chynllunio cynlluniau gweithredu a symud ymlaen a gweithrediad y cynlluniau gweithredu.
• Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Gynllun y Cyngor a’r cyd-destun strategol ac effaith posib ei gyflwyno.
• Profiad o reoli contractau trydydd parti ble yn berthnasol.
• Profiad o fonitro a gwerthuso prosiectau/cynlluniau.
• Profiad o gefnogi ymrwymiad y gymuned mewn prosiectau a phrofiad o weithio gyda chyrff y sector cyhoeddus, cyrff statudol a sefydliadau cymunedol bychan.
• Profiad o reoli prosiectau/cynlluniau.
• Profiad o grynhoi a monitro cyllidebau a gweithio o fewn rheoliadau ariannol, yn cynnwys rhai Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
• Rhaid i’r ymgeisydd fod yn greadigol a bod â’r gallu i ddatrys problemau er mwyn creu syniadau newydd ac arloesol ac er mwyn gweithredu ar yr atebion.
• Profiad o weithio oddi fewn amserlen dynn ac o dan bwysau.
• Dealltwriaeth o fodelau busnes a chynllunio.
• Y gallu i ddatblygu, meithrin a chadw perthynas weithio dda gyda rhan ddeiliad, busnesau, cynrychiolwyr o gynmunedau a’r Llywodaeth ar bob lefel.
• Dealltwriaeth gref o arloesedd a hwyluso – gyd’ar nod o greu amodau fydd yn denu cyfranogiad a chreadigrwydd.
• Sgiliau rheolaethol/trefniadaeth yn hanfodol.
DYMUNOL
• Profiad o reoli staff.
• Gwybodaeth a phrofiad o’r gofynion sy’n berthnasol o fewn amgylchedd Llywodraeth leol.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu gwych yn cynnwys yn gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag amrediad eang o gynulleidfaoedd.
• Gallu cyflwyno adroddiadau a gwybodaeth yn ysgrifenedig ac ar lafar
• Gallu gweithio ar liwt ei hun.
• Unigolyn egniol, ymroddgar, creadigol ac sydd â chymhellaint, gweledigaeth a phendantrwydd.
• Meddu ar drwydded yrru lawn a bod â char y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y gwaith.
• Medrus â TG.
• Bod ag ymroddiad o ran egwyddorion ac arferion cyfle cyfartal sy’n tanategu Cynllun Strategol y Cyngor.
• Gallu i siarad a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol.
DYMUNOL
• Dealltwriaeth a gwybodaeth am yr ardal ac amcanion Cyngor Gwynedd.
• Dealltwriaeth am becynnau meddalwedd cyfrifiadurol Windows.
• Sgiliau adeiladu tîm.
• Gwybodaeth ynglŷn ag amrediad o grwpiau, sefydliadau ac rhydweithiau sydd yn ymwneud a gweithgaredau economaidd cymdeithasol yng Ngwynedd.
• Gwybodaeth ynglŷn â sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol sydd ynghlwm a gweithredu prosiectau
• Gwybodaeth a phrofiad ynglŷn â gofynion gweinyddol a chyllidol gwahanol cronfeydd nawdd
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)