Lleoliad
Mae lleoliad y swydd i’w drafod, ond bydd gofyn i’r Mentor weithio ar draws y Sir yn rheolaidd.
Pwrpas y Swydd .
• Bydd Mentor Cyflogaeth yn gweithio o fewn Tîm Darparu Lleol Cymunedau am Waith a Mwy (C4W). Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth i unigolion sydd mewn tlodi gwaith, gan eu cefnogi i uchafu incmwn.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud
Cyfrifoldeb am swyddogaethau e.e. staff, cyllidebau, offer
• Cyllidebau penodol wedi’u clustnodi i’r prosiect
• Offer personol (offer TG, ffôn symudol, ac ati)
Prif Ddyletswyddau .
• I weithio ar y cyd gyda thîm darparu lleol Cymunedau am Waith a Mwy o fewn Gwaith Gwynedd.
• Monitro, coladu a diweddaru gwybodaeth rheoli perfformiad, adroddiadau a gofynion monitro eraill yn gyson, er mwyn sicrhau bod holl fonitro Llywodraeth Cymru yn gywir ac yn cydymffurfio.
• Bod yn gyfrifol am gefnogi baich achosion o gleientiaid gan ddefnyddio dull holistaidd, galluogi a chydweithredol.
• Darparu gwasanaeth hyblyg, gan ddatblygu cynlluniau cefnogi cynhwysfawr gyda chleientiaid ac ymgymryd ag asesu pellach ac adolygiadau rheolaidd fel y bo’n briodol, mewn cydweithrediad â CaW+.
• I chwarae rhan yn y broses Triage o fewn Gwynedd a sicrhau y ceir mynediad at y gefnogaeth berthnasol a'i bod ar gael i’r cleient.
• Datblygu cynlluniau gwaith unigol cynhwysfawr gyda chleientiaid ac ymgymryd ag asesu pellach ac adolygiadau rheolaidd fel y bo’n briodol, mewn cydweithrediad â’r Tîm Darparu C4W+ Lleol.
• Sicrhau bod yr holl ddata personol yn cael ei drin a’i warchod yn effeithiol, o fewn protocolau. Rhannu Gwybodaeth y cytunwyd arnynt yn lleol.
• Cefnogi unigolion i fynd i’r afael â rhwystrau eang i gyflogaeth; mynediad i hyfforddiant, addysg, cyfleoedd datblygu a chyflogaeth.
• Sicrhau bod pob cofnod a phob ffeil cleient yn cael eu diweddaru, gan gynnwys mewnbynnu i gyfarfodydd Triage rheolaidd.
• Cyflawni tasgau a chyfrifoldebau eraill tebyg fel y’u pennwyd o dro i dro gan y rheolwr yng nghyswllt rhediad esmwyth y gwasanaeth.
• Cyfrifoldeb am hunanddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.
• Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth fod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.)
• Disgwylir i ddeilydd y swydd weithio gyda’r nos a phenwythnosau ambell waith
• Dylai deilydd y swydd fod yn berchen ar drwydded yrru llawn a hefyd bod â mynediad i gerbyd preifat
Amlinelliad o’r dyletswyddau sydd uchod yn unig, er mwyn rhoi syniad o’r lefel o gyfrifoldeb mae’r swydd yn ei gynnwys. Nid yw’r swydd ddisgrifiad yn drwyadl, a gall dyletswyddau’r swydd newid o dro i dro heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel o gyfrifoldeb.