Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Gweinyddu/cofrestru mewn seremonïau sifil/crefyddol mewn swyddfeydd cofrestru, eiddo sydd wedi eu cymeradwyo, adeiladau crefyddol a lleoliadau eraill fel yr awdurdodwyd gan yr Awdurdod Lleol. Seremonïau i gynnwys Seremonïau Priodas, Seremonïau Partneriaethau Sifil, Seremonïau Enwi Babi, Seremonïau Adnewyddu Addunedau, Seremonïau Dinasyddiaeth ac unrhyw seremoni arall y gall Cyngor Gwynedd ei gynig.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Yn achlysurol, derbyn arian am seremoni neu dystysgrif.
Prif ddyletswyddau
•Er mwyn cyflawni’r dyletswyddau hyn, apwyntir deilydd y swydd yn Ddirprwy Gofrestrydd Arolygol a Dirprwy Gofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau
•Cynnal a chofrestru seremonïau sifil yn unol â gweithdrefnau a Rheoliadau Cyfreithiol, gan sicrhau y bydd y rhag-baratoadau sifil angenrheidiol wedi cael eu cwblhau, a’r taliadau wedi eu gwneud cyn y gall y briodas gymryd lle.
•Ymgymryd a thrafodaethau (cwestiynu cyplau) cyn y seremoni yn ôl yr angen a chwblhau’r gweithdrefnau ar ôl y seremoni.
•Penderfynu ar ddiwrnod y seremoni os gall y seremoni fynd yn ei blaen neu beidio (yn gyfreithlon), stopio’r seremoni os oes unrhyw rwystr
•Cynnal asesiad ar ddiwrnod y seremoni o’r lleoliad ble mae’r seremoni yn digwydd, yn enwedig os oes cais wedi’i wneud I gynnal y seremoni yn yr awyr agored, gwrthod y lleoliad os nad yw’r amodau yn caniatáu.
•Adrodd am unrhyw amheuaeth o hawl gyplau i briodi, i'r Cydlynydd Seremonïau
•Cyfrifoldeb dros gasglu a dychwelyd dogfennau cyfreithiol a’u cadw’n ddiogel.
•Cyfrifoldeb dros agor a chau adeiladau’r Cyngor er mwyn cynnal seremonïau ar ddyddiau Sadwrn a thu allan i oriau gwaith arferol yr adeilad.
•Darparu seremonïau enwi babi ac adnewyddu addunedau priodas fel bo’r angen. Casglu’r ffioedd yn unol â gweithdrefnau’r Gwasanaeth Cofrestru.
•Bod â’r wybodaeth diweddaraf am reoliadau’r Llawlyfrau Cofrestru’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, deddfwriaethau, cylchlythyrau a chyfarwyddiadau eraill ynghyd â gweithdrefnau’r Gwasanaeth Cofrestru ynglŷn â seremonïau.
•Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gael gwybodaeth lawn o’r ddeddf Deddf Priodasau 1949 ac unrhyw ddeddfwriaeth cysylltiedig ddilynol, a chofrestru seremonïau yn unol â rheoliadau’r deddfau hyn, drwy ddilyn canllawiau yn eu llawlyfrau.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Rhaid bod ar gael i weithio ar benwythnosau a Gwyliau’r Banc