Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• I gynorthwyo’r Cogydd â Gofal mewn paratoi bwyd, gweini bwyd, gosod y ffreutur a chlirio ar ôl cinio. Golchi offer a glanweithdra’r gegin.
• Mae’r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Offer
• Staff
Prif Ddyletswyddau
• Gweithio dan gyfarwyddid y Cogydd â Gofal.
• Dirprwyo i’r Cogydd â Gofal pan fo angen.
Cynorthwyo mewn paratoi ,coginio a gweini’r bwyd
• Goruchwylio gwasanaeth gweini bwyd
• Paratoi a choginio bwydydd ar gyfer deiet arbennig
• Goruchwyliaeth staff gan gynnwys hyfforddi a dyrannu dyletswyddau
• Cynorthwyo i reoli hylendid,iechyd a diogelwch y gegin
• Dyletswyddau clercyddol (e.e. archebu cyflenwadau, cadw cyfrif stoc bwyd, llenwi ffurflenni adrodd misol, sicrhau fod y llyfr cofnodion y gegin wedi ei gwblhau bob dydd).
• Unrhyw ddyletswydd arall yn ôl cais rhesymol.
• Yn cadw holl adeiladau ag offer y gegin yn lân, gan gynnwys y ffreutur pan ddefnyddir yr ystafell honno fel ystafell fwyta yn unig.
• Pan ddefnyddir y ffreutur at fwy nag un pwrpas, glanhau’r llawr, symud pob tamaid o fwyd gan ddefnyddio mop tamp os bydd angen.
• Yn gwneud dyletswyddau cyffredinol yn y gegin a’r ffreutur, megis golchi llestri, gosod a chlirio dodrefn yn y ffreutur.
• Cynnal safon uchel o lendid personol a gwisgo gwisg cegin lân briodol.
• Cydymffurfio a pholisiau Iechyd a Dioglewch a Diogelwch Bwyd Cyngor Gwynedd.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Bydd amgylchiadau yn codi yn gofyn i’r unigolyn weithio i baratoi lluniaeth tu allan i oriau gwaith arferol e.e diwrnod hyfforddiant mewn swydd.