Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu cefnogaeth ar draws rhagleni a prosiectau y Swyddfa Rhaglen ac yn gyffredinol;
•Darparu cefnogaeth i’r Cyfarwyddwr Portffolio a’r Rheolwr Gweithrediadol;
•Arwain ar drefniadau gweinyddol ar gyfer y Swyddfa Rheoli Portffolio gan sicrhau casglu data, cadw cofnodion, prosesu anfonebau ayyb;
•Bod yn brif bwynt cyswllt o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio, gan gyfeirio ymholiadau ymlaen yn brydlon ac effeithiol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Bod yn gyfrifol am offer perthnasol yn cynnwys gliniaduron a ffonau symudol.
Prif ddyletswyddau
Cefnogi’r Swyddfa Rheoli Portffolio
•Cefnogi’r Rheolwyr Rhaglen a Phrosiectau i rheoli y rhaglenni a prosiectau yn effeithiol;
•Trefnu a chofnodi cyfarfodydd Byrddau Rhaglen a Byrddau Prosiect gan gynnwys cytuno ar agendau, cymryd cofnodion a monitro camau gweithredu;
•Darparu cefnogaeth er mwyn sicrhau bo y prosiectau a rhaglenni yn cael eu darparu.
Cefnogi’r Cyfarwyddwr Rheoli Portffolio a’r Rheolwr Gweithrediadol
•Rheoli dyddiaduron gan gynnwys trefnu cyfarfodydd;
•Darparu cefnogaeth cyfrinachol gan gynnwys ymateb a blaenoriaethu gohebiaeth;
•Cwblhau unrhyw tasgau ar ran y Cyfarwyddwr a’r Rheolwr Gweithrediadol.
Cefnogaeth Cyffredinol
•Darparu cymorth a chefnogaeth weinyddol ar draws y tîm;
•Sefydlu, cynnal a rheoli systemau gweinyddol effeithiol;
•Cyfrifoldeb dros drefniadau cyfarfodydd gan gynnwys trefnu ystafelloedd, lluniaeth, argraffu, llungopïo a didoli papurau;
•Cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd;
•Rheoli a mewnbynnu data;
•Cyfrifoldeb dros baratoi a darparu gwybodaeth ar gyfer defnydd mewnol a phartneriaid allanol sy’n cyd-fynd a’r canllawiau brand cymeradwy;
•Cyfrifoldeb dros brosesu a reoli archebion ac anfonebau, gan gynnwys codio yn gywir, monitro a mewnbynnu ar daenleni cyllid;
•Cefnogi gweithgareddau cyfathrebu a marchnata ar draws y tîm gan gynnwys creu cynnwys, ymgyrchoedd, digwyddiadau, y wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Llysgenhadol
•Bod yn brif bwynt cyswllt o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio, gan dderbyn pob ymholiad ffôn ac e-bost cyffredinol, a’i gyfeirio ymlaen yn brydlon ac effeithiol;
•Datblygu perthnasau effeithiol a chyfathrebu gyda phartneriaid;
•Mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau yn ôl yr angen;
•Cyfrannu mewn elfennau allweddol er mwyn gweithredu’r weledigaeth a’r cynllun twf.
Cydymffurfiaeth ac Ymddygiad
•Gweithio i'r holl bolisïau a gweithdrefnau sydd wedi'u gosod a'r gyfraith e.e. ariannol, cydraddoldeb ac iechyd a diogelwch;
•Arddangos y safonau uchaf o ymddygiadau a gwerthoedd proffesiynol.
Amgylchiadau arbennig
•-