Dywedwch wrthym pam eich bod yn gwneud cais am Grand Caledi i Denantiaid? (ticiwch bob un sy'n berthnasol – mae hyn er mwyn rhoi gwybodaeth i'r awdurdod lleol am eich angen dybryd am gymorth tai)
Dywedwch wrthym faint o rent rydych chi'n ei dalu bob wythnos neu fis
Dadansoddiad o’r ôl-ddyledion rhent yn ôl cyfnod rhentu misol o 1 Mawrth 2020 i 30 Mehefin 2021:
Nodwch yr wybodaeth ariannol angenrheidiol y gofynnir amdani ar gyfer y cyfnod y gwnaeth eich ôl-ddyledion rhent gronni yn ystod Covid-19.
Incwm net yw'r swm ar ôl didyniadau fel treth incwm. Dylech gynnwys unrhyw fudd-dal a gewch fel incwm. Dylech gynnwys y cyfraniad tuag at gostau aelwydydd gan y rhai a nodir uchod nad ydynt yn ddibynyddion (os yn berthnasol).
Yn y golofn "Ddyledus" rhowch nod i gynrychioli Misol/Wythnosol/Pythefnosol/ Chwarterol/6-Misol/Blynyddol/Afreolaidd.
Os oes gennych gynilion, ond eu bod wedi'u clustnodi ar gyfer eitem bwysig, nodwch isod a rhowch reswm.
Darllenwch y datganiad hwn yn ofalus cyn i chi ei lofnodi a'i ddyddio. 1. Rwy'n datgan fy mod wedi darllen a deall y gofynion cymhwystr a thystiolaeth ar gyfer gwneud cais am Grant Caledi i Denantiaid ac mae'r wybodaeth a roddir ar y ffurflen hon yn wir ac yn gywir. 2. Rwy'n cytuno y gall yr awdurdod lleol wneud ymholiadau angenrheidiol i wirio'r wybodaeth rwyf wedi'i rhoi. 3. Os darganfyddir bod taliadau wedi'u gwneud drwy gamgymeriad neu wedi'u hawlio o ganlyniad i dwyll, cymerir camau adfer a bydd erlyniad yn cael ei gychwyn. 4. Rwy'n cytuno i ddarparu'r dystiolaeth i gefnogi fy nghais gan gynnwys fy incwm/gwariant pan ofynnir amdano, a gwybodaeth bellach yn ymwneud â'm cais pan ofynnir i mi. 5. Deallaf y bydd angen i'r awdurdod lleol adolygu fy nghais a gwirio'r manylion gyda'm landlord neu asiant, cyn y gellir ei ystyried. 6. Deallaf y bydd yr awdurdod lleol yn gwirio bod fy landlord wedi'i gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru, ac y bydd yn rhoi gwybod am unrhyw eiddo sydd heb ei gofrestru. 7. Nid wyf eisoes wedi derbyn Benthyciad Arbed Tenantiaeth na grant tuag at yr ôl-ddyledion rhent yr wyf yn gwneud cais am gymorth â nhw drwy'r cais hwn. 8. Deallaf y gallai fy nghais fod yn aflwyddiannus, ac y byddaf yn cael gwybod y rheswm pam.