Rwy'n cadarnhau'r canlynol:
Rwyf wedi darllen a deall nodiadau cyfarwyddyd y Gronfa Cadernid Economaidd
Mae fy musnes yn gweithredu yng Nghymru.
Os dyfernir grant i mi, rwy'n cadarnhau bod gan fy musnes ddigon o adnoddau ariannol i ailddechrau masnachu arferol.
Roedd fy musnes wrthi'n masnachu ac yn creu refeniw gwerthiant hyd at 6pm ar 4 Rhagfyr 2020 ar gyfer busnesau lletygarwch neu 19 Rhagfyr 2020 ar gyfer busnesau eraill.
Rwy’n cydnabod y bydd fy awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru yn cynnal unrhyw wiriadau busnes priodol yr ystyrir sy’n angenrheidiol i asesu’r cais a gwirio natur, defnydd ac effaith y cyllid yn y dyfodol
Nid wyf yn gymwys ar gyfer y 'Gronfa Adferiad Diwylliannol - Cymorth i Weithwyr Llawrydd (a lansiwyd ar 17 Mai 2021)
Ni orfodwyd fy musnes i gau ar ôl torri rheolau cadw pellter cymdeithasol
Nid wyf wedi cael arian drwy Gronfa Cadernid y Trydydd Sector
Nid wyf wedi cael arian drwy Gronfa Cymru Egnïol.
Rwy’n cadarnhau mai'r busnes hwn yw fy mhrif ffynhonnell incwm (>50%).
Ar gyfer cwmnïau cyfyngedig yn unig – rwy'n cadarnhau bod gan fy musnes drosiant blynyddol rhwng £10,000 a £85,000
Ar gyfer unig fasnachwyr / partneriaethau yn unig – rwy'n cadarnhau bod gan fy musnes drosiant blynyddol llai nag £85,000
Rwy'n cadarnhau y byddaf yn darparu'r holl dystiolaeth ofynnol i gefnogi fy nghais am Grant y Gronfa Cadernid Economaidd os gofynnir amdano.
Rwy'n deall, os gwneir taliad grant a bod tystiolaeth yn dod i'r amlwg wedyn i ddangos nad wyf yn gymwys i gael y taliad grant hwnnw, efallai y bydd yr Awdurdod Lleol, ar ran Llywodraeth Cymru, yn gofyn i mi ad-dalu'r grant yn llawn neu'n rhannol. Hefyd, pe penderfynid bod taliad wedi'i wneud o ganlyniad i dwyll gennyf fi neu ar fy rhan, gallai camau cyfreithiol gael eu cymryd yn fy erbyn.
Rwy’n cadarnhau fy mod wedi darllen a deall datganiad preifatrwydd y Gronfa Cadernid Economaidd..
Rwy’n datgan bod y wybodaeth sydd wedi’i darparu yn y cais hwn yn wir ac yn gywir.