Mae derbyn cludiant am ddim yn amodol ar i’r dysgwr gydymffurfio â’r cod ymddygiad ar gyfer cludiant ysgolion. Cyfrifoldeb rhieni / gwarcheidwad yw sicrhau cydymffurfiaeth á’r cod ymddygiad. Gall peidio â chydymffurfio arwain at golli’r hawl i gael cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol. Os collir hawl i gludiant am ddim, cyfriflodeb y rhieni / gwarcheidwad yw ysgwyddo’r gost cludiant o’r cartref i’r ysgol.