skip to main content

Ffurflen Hawlio Grant Cefnogi Busnes

Mae’r ffurflen hon wedi’i diogelu gyda HTTPS a TLS. Mae gwybodaeth rydych yn ei hanfon yn cael ei hamgryptio’n ddiogel rhwng eich cyfrifiadur a rhwydwaith Cyngor Gwynedd. Mae systemau cyfrifiadurol y Cyngor yn sicrhau mae dim ond staff awdurdodedig sydd â mynediad i’ch manylion.

Manylion y Busnes

*
*
*
*
*
*

Manylion cysylltu (os yn wahanol i'r uchod)

Manylion cyfrif banc i dalu'r grant

*
*
*

Manylion yr ymgeisydd

Gwybodaeth am eich busnes

Datganiad:

Os ydych wedi cael grant cysylltiedig sy'n gysylltiedig â Covid-19 ar wahân, gan gynnwys o Gronfa Cydnerthedd Economaidd Llywodraeth Cymru, rhaid i chi ei ddatgan.

 *

Cymorth de minimis

Mae'r grant hwn yn cael ei ddarparu i chi fel cymorth de minimis o dan Reoliad 1407/2013 y Comisiwn Ewropeaidd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn yma: 'Cymorth de minimis: Crynodeb' (Saesneg yn unig).

Bydd grant a ddarperir i chi o dan y cynllun hwn yn berthnasol os ydych wedi ymgeisio neu'n bwriadu gwneud cais am gymorth yn y dyfodol o dan de minimis.

Gwerth y cymorth rydych yn ei gael o dan y cynllun hwn fydd naill ai £10,000 neu £25,000 yn dibynnu ar ba grant rydych yn gymwys i'w gael.

Bydd angen i chi ddatgan y swm hwn i unrhyw asiantaethau cefnogi eraill sy'n gofyn faint o gymorth de minimis yr ydych wedi'i gael. Mae de minimis yn reol sy’n caniatáu i fusnes dderbyn cymorth cyhoeddus o hyd at uchafswm o €200,000 - tua £177,000 - o fewn cyfnod tair mlynedd. Petaech wedi derbyn cymorth o dan y rheol de minimis bydd hynny wedi ei nodi ar y gohebiaeth yn cynnig y cymorth i chi. At ddibenion y Rheoliad de minimis, rhaid i chi gadw cofnod o'r grant hwn am 3 blynedd o'r dyddiad y'i cewch.

 *
Os ydych wedi ateb Ydy mae angen darparu maylion:
 *

Cadarnhau Cymorth Gwladwriaethol a dderbynnir dan fesur Fframwaith Dros Dro Covid-19 ar gyfer Awdurdodau'r DU a Statws Cwmni mewn Trafferthion

Cyfrifir gwerth y cymorth mewn Ewro cyfwerth i'r Sterling drwy ddefnyddio cyfradd gyfnewid y Comisiwn sy'n gymwys ar ddyddiad cynnig y cymorth. Bydd unrhyw gymorth a ddarperir dan y mesur hwn yn berthnasol os ydych chi am wneud cais, neu wedi gwneud cais, am unrhyw gymorth arall a roddir ar sail Fframwaith Dros Dro y Comisiwn Ewropeaidd. Bydd angen i chi ddatgan y swm hwn i unrhyw gorff dyfarnu cymorth arall sy'n gofyn am wybodaeth gennych chi am faint o gymorth rydych chi wedi'i dderbyn. Mae'n rhaid i chi gadw'r wybodaeth hon am bedair blynedd ar ôl i'r DU gwblhau'r broses bontio o'r UE a'i chyflwyno ar gais gan awdurdodau cyhoeddus y DU neu'r Comisiwn Ewropeaidd.