skip to main content

Browse the archives

XD/85/1

PAPURAU GUY HUGHES PAPERS
Adran 1 - Papurau Gwyneth Vaughan/Section 1 - Gwyneth Vaughan Papers
I’w ddefnyddio ar gyfer ymwchwil yn unig / To be used for research only.

Enw bedydd Gwyneth Vaughan oedd Annie Harriet Jones. Ganed yn Nhalsarnau, Meirionnydd ar Orffenaf 5 1852. Addysg elfennol yn unig a gafodd, ac wedi hynny aeth i Lan Ffestiniog i ddysgu sut i wneud hetiau merched. Gweithiodd wrth ei chrefft am gyfnod cyn mynd i weithio siop Coed Helen House, Clwt y Bont. Priododd â John Hughes Jones un o feibion y siop ym mis Medi 1875. Aethant i fyw i Lundain er mwyn i’w gwr gael gorffen ei gwrs meddygol. Yr ystod y cyfnod hyn gollyngwyd y Jones o enw’r teulu a defnyddiwyd yr Hughes yn unig. Cawsant bedwar o blant, sef Arthur, Guy, Laura Kathleen a Roy Bennet. Erbyn 1893 ’roedd y teulu yn ôl yng Nghlwt y Bont. Yn 1902 bu farw Dr. Hughes a symudodd Gwyneth Vaughan a’ r plant yn gyntaf i Fangor, ac yna i Bwllheli yn 1909.
Gweithgareddau cyhoeddus Gwyneth Vaughan a’i gwnaeth yn adnabyddus yn gyntaf. Dechreuodd annerch cyfarfodydd cyhoeddus dros y Blaid Ryddfrydol yn 1891, ac o 1898 hyd at 1905 bu’n ysgrifennydd The Welsh Union of Women’s Liberal Associations. Teithiodd drwy’r wlad hefyd yn darlithio ar bynciau fel dirwest, crefydd a moesoldeb. Bu yn un o weithwyr mwyaf diwyd y British Women’s Temperance Association. Sefydlodd 243 o ganghennau y mudiad drwy Brydain. Gorchest fwyaf Gwyneth Vaughan oedd ei chyfraniad toreithiog yn y Gymraeg a’r Saesneg i’r wasg ar y pynciau a nodwyd uchod, ac hefyd ymgyrchoedd priodol fel cael pleidlais seneddol i ferched, a hawliau merched yn gyffredinol. Cymerodd ddiddordeb mewn pethau ’Celtaidd’ fel llawer o’i chyfoeswyr. Derbyniwyd hi i Orsedd y Beirdd yn eisteddfod Llanelli ym 1895. Cyfraniad pennaf Gwyneth Vaughan i lenyddiaeth Gymraeg oedd ei nofelau a ysgrifennodd yn ystod saith mlynedd diwethaf ei bywyd, O Gorlannau y Defaid, Plant y Gorthrwm, Cysgodau y Blynyddoedd Gynt a Troad y Rhod. Bu farw ar 25 Ebrill 1910.

Gwyneth Vaughan, christened Annie Harriet Jones was born at Talsarnau, Meirionnydd on July 5 1852. She received no more than an elementary education before becoming an apprentice milliner. After completing her training she worked for a short period from home before moving to work in a shop at Clwt y Bont. It was here that she met John Hughes Jones, whom she married in September 1875. The couple moved to London in order that John Jones could complete his medical training. It was at this time that the Jones was dropped from the family name. There were four children, namely, Arthur, Guy, Laura Kathleen and Roy Bennet. By 1893 the family had returned to Clwt y Bont. However after Dr. Hughes’ death in 1902 Gwyneth Vaughan and the children moved firstly to Bangor and then to Pwllheli in 1909.
Gwyneth Vaughan became well-known initially through her public appearances. She began addressing Liberal Party meetings in 1891, and from 1898 until 1905 was secretary of the Welsh Union of Women’s Liberal Associations. She worked diligently on behalf of the British Women’s Temperance Association establishing 243 branches of the movement throughout Britain. In addition she travelled widely lecturing on such topics as temperance, religion and morality. Gwyneth Vaughan’s major feat was the prolific contribution that she made in the press both in English and Welsh. She wrote on a variety of issues, and also took part in specific campaigns such as gaining a parliamentary vote for women, and women’s rights in general. Like many of her contemporaries Gwyneth Vaughan took an interest in things ’Celtic’. She was received into the Gorsedd of Bards at the Llanelli eisteddfod in 1895. As an author her principal contribution to Welsh literature were four novels, all written within the last seven years of her life, O Gorlannau y Defaid, Plant y Gorthrwm, Cysgodau y Blynyddoedd Gynt and Troad y Rhod. Gwyneth Vaughan died on April 25 1910.

Item TitleDescriptionArchive Date
XD85/1/1-17 Gohebiaeth / Correspondence   
XD85/1/18-42 Toriadau Papur Newydd / Newspaper Cuttings   
XD85/1/43-75 Amrywiol /Miscellaneous   
XD85/1/76 Lluniau / Photographs   
XD/85/1/77-151 Llyfrau a phamffledi / Books and pamphlets   
X/CURIOS Acc. 1948/1-7 Curios: 1948   

Page Language

In accord with normal archival practice in Wales, details of documents are presented in the language of the document. Where details appear in Welsh, then Welsh is the language in which the document is written; where they are in English, the document is in English.