XM3626/211
LLYTHYR: J. & C. Timothy, Borth, Porthmadog at Capt. E[dward] Williams, yn gobeithio ei fod wedi cyrraedd yn saff Y mae llawer o golledion oherwydd y tywydd. Nid oes cownt o’r Charoldine [?Geraldine] ers 3 wythnos neu fis. Cyrhaeddodd y Cordelia bore Mawrth. Mae Evan Jones, gwr Ellen Ambrose wedi colli ei long ond achubwyd y criw i gyd. Hwyliodd y Nanhoron bore ddoe. Priododd Richard Jones y Yard gydag Ellen Jones Car[r]eg Wen, ac y maent wedi mynd i Lundain.