XM3626/204
LLYTHYR: J. & C. Timothy, Borth, Porthmadog at Capt. Williams yn diolch iddo am ei lythyr. Mi oedd John Timothy yn sal nos Sadwrn ond yn well erbyn heddiw, Yn dweud wrtho am beidio a phoeni am ei fod wedi cael mordaith hir. Mae’r G[e]org[e] Casson wedi cyrraedd Garston. Mae’r Queen Em[m]a yn Plymouth wedi cael ei rhedeg gan Frenchman. Mae John Watkins a Laura Evans am fynd yno gyda’r Mail heddiw. Mae darn o chwarel y Welsh Slate wedi dod i lawr. Mae llawer o longau yn disgwyl ar y Welch Slate ac y mae’n beryg na fydd dim i’w gael am rai misoedd. Mae llawer o longau yn dod yma bob wythnos. Mi oedd merch ifanc o Bath yma heddiw. Cofion ato ef ac at Humphreys. Maent yn disgwyl llythyr eto at ganol yr wythnos ac yn disgwyl ei fod wedi cael llwyth.