XD34/203
LLYTHYR: J. Lloyd Hughes, Bryn Tirion, Llanrhaeadr, Oswestry at Mr. Roberts. Diolchai am y llythyr a’r gwahoddiad caredig. Fe garai gael derbyn y wahoddiad, buasai yn hoffi cael gwasanaethu Cylchdaith Caernarfon, ond mae ef wedi addo mynd yn ôl i arolygu Cylchdaith Treffynnon. Ar ôl derbyn llythyr Mr. R. anfonodd atynt ac y maent yn dal yn dynn yn ei addewid. Hwyrach y caiff yr anrhydedd eto rhyw-dro i gael gwasanaethu yn y Gylchdaith yna.