XD34/202
LLYTHYR: R. Vaughan Owens, 8 North St., Bargoed, i Mr. David Roberts, Bank House, Castle Square, Caernarfon. Derbyniodd lythyr D.R.. ’Roedd wedi addo mynd i Stockton on Tees ym mis Medi ond tynodd ei addewid yn ôl cyn cael gwahoddiad oddiyna. Derbyniodd lythyr oddiwrth y Circuit Steward yn gwrthod ei ryddhau. Hefyd mae pobl Bargoed a New Tredegar wedi penderfynu anfon protest yn erbyn iddo symud. Serch hyn i Benisarwaen mae ef am ddod. Efallai y gall D.R. ddylanwadu ar Dr. Jones ac eraill i ymladd y case. Fe’i siomwyd y llynedd trwy i Gylchdaith Caer roddi gwahoddiad i’r Parch. D.R. Rogers heb adael iddo wybod. Mae e’n dal yn gadarn dros ddod [i Benisarwaen].