skip to main content

Browse the archives

XM1573/44

LLYTHYR: R.B. Pritchard, Middle Granville, New York, at ei chwaer a’i frawd yng nghyfraith. Yn hyderu eu bod yn poeni ynglyn a’r Cafe, o achos ffolineb yw poeni. Mae ganddo ddiddordeb mewn prynu ty H. Humphrys yn ffordd Bont Saint. Yn gofyn iddynt holi am ei bris ac os mai "freehold" neu "leasehold" yw ac yn y blaen. Mae’n meddwl fod priodas Henry wedi bod yn syndod i’w gyfeillion yn ogystal a hwythau. Yn dymuno bob hapursrwydd iddo. Y diwrnod cynt roedd yn ddydd gwyl Genedlaethol yn America. Y tywydd yn anioddefol o boeth yno. Yn son am y plant yn datblygu. Mae’n hyderu fod John wedi trosglwyddo’r tai i Ann ers tro. Mae’r fasnach lechi yn well o lawer nag y bu, gwerthodd fwy yn y tri mis diwethaf nag a wnaeth erioed o’r blaen. Mae’r streic chwarelwyr yng Nghymru yn help i’r chwareli yno. Mae wedi anfon llawer iawn o’r "green slate" i Brydain ac felly mae prinder yn eu masnach gartrefol yn gorfodi llawer i brynu llechi coch sydd yn uwch eu pris. Mae’n awr yn agor chwarel newydd sydd yn debyg i’r chwareli yng Nghymru. Mae’n gofyn a yw Joseph Roberts wedi prynu lle yn Stryd y Llyn eto. Mae cyfaill, Robert G. Roberts yn parhau yn wael, ac yn annhebyg o weithio am amser maith.


Page Language

In accord with normal archival practice in Wales, details of documents are presented in the language of the document. Where details appear in Welsh, then Welsh is the language in which the document is written; where they are in English, the document is in English.