skip to main content

Browse the archives

XM1573/43

LLYTHYR: R.B. Pritchard, Middle Granville, New York, at ei Chwaer a’i theulu yn diolch am eu rhoddion gwerthfawr i’w mab bach Isaac Pritchard. Mae y merched a Robert Hughes wedi dotio arno. Yr oedd wedi ysgrifennu tra yn New York yn eu hysbysu fod Robert Hughes wedi glanio. Mae eu hargraff cyntaf ohono yn ffafriol iawn. Bu yn dweud ei adnod yn y Seiat Nos Fercher ac mae gwahaniaeth mawr yn ei Gymraeg a Chymraeg Cymru America, ond nid oes disgwyl dim arall gan i’r beibl gael ei ymlido’r ysgolion, mae bron wedi cael ei yrru o’r Ysgol Sul hefyd a defnyddio taflenni i’w darllen yn hytrach na’r beibl. Mae’n meddwl bod dipyn o hiraeth ar Robert Hughes ond maent yn gwneud popeth i geisio ei sirioli ac mae wedi bod yn ceisio chwaraeu’r organ, oedd y genethod yn arfer ddefnyddio cyn iddynt gael y piano. Mae yn son am lythyr mae Robert Hughes wedi ei ysgrifennu atynt lle mae yn son am oriawr ei dad. Mae yn siarad yn galed iawn hefyd am ymddygiad John Hughes at ei dad. Mae ganddo feddwl mawr o’i Fodryb a’i Ewyrth y Cafe fel ei gelwid. Ni aiff i’r Ysgol tan y mis Medi canlynol, pryd y bydd wedi dod i adnabod y bechgyn lleol. Yr oedd Robert Hughes yn ei holi yn arw am y cerbyd, a’i eiddo eraill pan gyrraeddod yno ac yn ei edmygu. Prynwyd ddillad newydd i gyd iddo tra yn New York. Mae’n cychwyn dranoeth am Boston ac yn fuan wedyn i Canada.


Page Language

In accord with normal archival practice in Wales, details of documents are presented in the language of the document. Where details appear in Welsh, then Welsh is the language in which the document is written; where they are in English, the document is in English.