XM1573/42
LLYTHYR: R.B. Pritchard, Putnam House, Corner Fourth Ave., & 26th Street, Opposite Madison Square Garden, New York, at ei chwaer a’i theulu. Yn eu hysbysu fod Robert Hughes wedi cyrraedd yn ddiogel. Maent eu dau newydd gael pryd o fwyd mewn Hotel yno, ac mae Robert yn synnu at y lle mor fawr. Mae’n edrych yn fachgen "intelligent" ac os fydd yn dda a smart fe all wneud llawer iawn. Yn son am y trafferth o ddod o hyd iddo ar ôl iddo lanio. Mae Robert Hughes yn canmol mor garedig fu ei Ewyrth R. Thomas wrtho. Bydd yn ysgrifennu’n bellach i roi ei hanes ar ôl mynd gartref.