XM1573/39
LLYTHYR: R.B. Pritchard, Middle Granville, New York, at ei chwaer a’i theulu, ynglyn a’r achos a ddaeth yn ei erbyn pan fu i Humphrey Jones frifo yn ei chwarel, ac o ganlyniad bu farw ymhen wythnos, ond ennillodd oherwydd i’r Barnwr ddweud nad oedd yna "case" ac am fod ei weithwyr i gyd o’i blaid ef, ac un, sef John R. Jones, oedd wedi bod yn gweithio mewn chwareli ers 30 o flynyddoedd wedi dweud mai yno oedd y celfi chwarel gorau a welodd mewn unrhyw chwarel. Yr oedd wedi cymeryd costau gwraig Humphrey Jones drosodd i gyd yn ystod ei salwch a’r claddedigaeth. Oherwydd fod "Employers Liability" mor strict maent yn insiwrio ond fe roedd yr "Insurance Co." wedi tori yr adeg hyn.