skip to main content

Browse the archives

XM/5120/88.

LLYTHYR.i Robert Closs, Welsh Prarie, Cambria, P. O. Columbia County, Wisconsin, North America at Mr. Ellis Jones, Vaenol, nr. Bangor. Ni fwriadai sgwennu i’r hen wlad gan na chai ateb ond dywedodd D. Jones, mab y Parch. D. Jones o Gaernarfon fod E.J. yn dymuno ac yr atebai’n fuan. Maent oll a adawodd yr hen wlad yn saff. Ganwyd chwech o blant yma. Claddwyd tri. Mae ganddo 320 erw o dir, deg o fuchod a gwartheg ieuanc, ceffylau a defaid felen. Mae’r cwbl yn werthfawr. Mae pob cant a oedd ganddo pan ddaeth drosodd yn awr yn fil. Y mae’r farchnad yn lled uchel. Y gwenith tua doler a chwarter y bwsial, haid 80c, ceirch 40, tatws 50, Indian corn 40c y bwsial. Ymenyn 15, caws 8, moch 5, beef 7c. y pwys. Buwch 30, ychain 100, par o geffylau 300 doler. Tir 15 i 20 doler yr erw. Y wlad ar gynnydd yn arbennig ffyrdd haearn gyda un yn pasio o fewn milltir i’w dir. Yn wlad iach. Mae pawb bron yn ddirwestwyr. Y mae deddfau ar fin cael eu pasio i wahardd gwerthiant diodydd meddwol yn y Dalaith sef Main Liquor Law. Ceir 20 i 30 bwsial yr erw o wenith. Bydd gan Welsh Prarie 300 i 2,000 bwsial o wenith, heb law ceirch, haidd. Milwaukee yw’r farchnad 90 milltir i ffwrdd. Yn lled gostus cymer 6 diwrnod i fynd ac yn bl. Y mae’r ceffylau yma yn fywiog, gwageni ac nid troliau sydd ganddynt. Y tafarnau’n cadw ostleriaid. Maent yn gwneud arian yn `lled ffast’. Y dull o drethu yw prisio’r tir bob blwyddyn. Y mae bob swydd yn cynnwys tua 20 cantref (Lowns) pob town yn chwe milltir sgwar ac yno eu rhannu’n `sections’. Mae R.C. wedi bod yn swyddog yn y town hwn. Mae pob cyflog swyddogol wedi’i benderfynu gan y llywodraeth. Pe bai digon o le ar y papur gallai ddangos sut mae’r llywodraeth yn gweithio. Maent wedi cael tywydd da. Nid ydynt wedi dechrau rhoddi gwatr i’r gwartheg eto. Hen gymdogiton yn cofio at Moris Roberts yn cofio at ei frawd Owen ac yn dweud ei fod wedi ysgrifennu i Ben y Bryn ers tua blwyddyn ac heb gael ateb. Mae M.R. yn byw’n gysurus ac yn casglu arian. Mae’i ferch Margaret wedi priodi gyda Yankee pregethwr ac yn byw yn Illinois. Mae teulu Penygwryd i gyd yn iach. Owen Beudy ar y ffordd i wneud arian mawr. Yn gofyn sut mae`i frawd (R.C.) Humphrey. Ysgrifennodd Humphrey at R.C. llynedd gan ddweud y dôl drosodd yr haf diwethaf ond ers hynny ni chlywodd R.C. ddim. Mae crefydd yma yn lled flat . Yn danfon ei gofion at bawb.


Page Language

In accord with normal archival practice in Wales, details of documents are presented in the language of the document. Where details appear in Welsh, then Welsh is the language in which the document is written; where they are in English, the document is in English.