skip to main content

Browse the archives

XM/5120/84.

COPI O LYTHYR: John Jones, Penybryn, Edern at Mr. Thomas Pugh, 3 Market St, St. James, London, Yn diolch am waiscot; yr oedd yn hawdd i’w gael o i ffitio; `roedd yn gymwys iawn `ond yn unig fod y Sais (mae’n debig) yn frithill o beth main hynod. Nid yw J.J. am achosi trafferth ond `mae rhai pethau yn Llundain na fedr o gael yng Nghymru am bres y byd. Sôn am y diwygiad crefyddol yn Llun ac Arfon. 29 o ddynion ifainc yn society Clynnog. Mae’r dref wedi ystwytho yn gyffredinol, drysau’n agored i dderbyn y gweinidogion. `Doedd o ddim yn bwriadu ysgrifennu cymaint. Byddai’n dda gan Mr. Jones glywed ei hanes yn Nantglyn. Bu’n rhaid mynd i ganol y cae. `Doedd dim digon o le yn y ty i bawb. Cafodd offeiriad Nantglyn a’r clochydd y llan iddynt nhw eu hunain. Daeth yr offeiriaid i chwilio am ei braidd. Gofynnodd i Humphrey Owen a fedrai Roeg ond dechreuodd yr hen wragedd wneud `llygaid a chlustiau arno gan fygwth rhoi ei cyrn dano, bu yn llawn bryd iddo gymeryd ei draed dan ei gesail a dianc’.


Page Language

In accord with normal archival practice in Wales, details of documents are presented in the language of the document. Where details appear in Welsh, then Welsh is the language in which the document is written; where they are in English, the document is in English.