skip to main content

Browse the archives

XM/5120/82.

LLYTHYR:Daniel?, Liverpool at Mr. J. Jones, PenyBryn, Edern. Yn Association Caerwys derbyniodd lythyr J.J. Fe’i darllenodd ar y ffordd i lawr o Gaerwys i Lanengan. Digon gwir fod llawer iawn o dymhestloedd wedi curo arno er pan welson nhw’i gilydd. Byddai’n dda ganddo glywed oddi wrth J.J ynglyn â`r ddeddf aelodau mae Paul yn sôn amdani. 12 Feb. `Mae Report wedi cyrraedd yma yn ddiweddar fod "ufferngiw" yn cael ei fagu trwy lawer o Gymru er na faidd godi’i ben mwy na disgyblion Tom Paine yn Lloegr oherwydd awdurdod y llywodraeth fell ynteu etto nes ennill mwy o brosyletiaid o blaid y cyfeilornad Peter Williams llawer un wyf yn ei glywed yn dweud fod yr Henwr o’r neb yn duwiol yn deall Ieithoedd wedi bod yn fwy llafurus na neb o’n cydwladwyr. Oh’r fath golled ni ….. ac ni welwn innau yn ei lythyrau a’i lyfrau un peth o’i le rhyw bwyntiau dyfnion, meddent ac mae llawer yma yn gwrido wrth glywed son am y drindod fel pe gofynnech i’r Papist pa faint arian a raid dalu am faddau pechod. Gobeithio y sathrir arno yn y plisgyn ac na chlywir mwy son ymhlith Methodistiaid Cymru ond am hyn yn un huw tra’r haul yn y ffurfafen. dim newyddion rhyfedd yma ond bod y Ffangcod wedl declario rhyfel yn erbyn Britain a Poland ac mae’n debygol yn fuan y bydd y fleets yn cyfarfod a’i gilydd ymhen ychydig ddyddlau. Nid oes yma eto ddim press ond mae’n debygol y bydd i hyn lleiaf mae yma lawer o fenywod …..yn disgwyl amdano fel y gath am y llygod. £2 am informio wrth Pressmaster am bob llongwr, mae y rhan fwyaf o bob graddau yn ofni y rhyfel hwn. Mae’r ffrancod yn bygwth 50,000 caps of Liberty i’w danfon drosodd yma. Yr Arglwydd yw efe .. a fydda da yn ei olwg. Mae pechodau y Deyrnas hon yn gwaeddi yn uchel lawn am ddial y rhagfeydd…y putteindra a phob trueni sydd mewn 24 awr yn y dref yma, doed a ddelo fel y dywedasoch ond bod yn barod rhan yn .. daer erfyniaf i gael traed ir hunan anghredin .. a phob trueni i rodio addas i Efengyl Grist ai Ogeneddu yn y cwbl ynof. Ydwyf eich angheilwng gyfaill. Daniel. Yr oedd yn dda gennyf glywed yn eich llythyr fod crefydd heb ei duo gymaint ac heb gael ei llwyr ddiystyru yn y wlad o achos Hugh Jones ac fy hen .. buasant heb ei gem. Mae gwr Anne, chwaer Jane Jones late wedi marw o fewn ychydig ddyddiau a basiodd ar .. merchaid rhyw dro anisgwyliadwy ai cyfarfu fe alle y caiff lai o bowdor yn ei phen o hyn allan ac y bydd dyfod at y cymru tlodion i`r capel ddim mor ddiystyrllyd gan y ferch. Efe addarostwng y beilch.


Page Language

In accord with normal archival practice in Wales, details of documents are presented in the language of the document. Where details appear in Welsh, then Welsh is the language in which the document is written; where they are in English, the document is in English.