skip to main content

Browse the archives

XM/5120/79.

LLYTHYR: Mary Jones, Edern at ei phriod. Wedi derbyn ei lythyr. Dywedodd o wrthi i beidio â phoeni ynghylch pethau darfodedig ac mae hi’n cytuno na ddylai oblegid mai pethau gwag ydynt. Yn bod yn gofyn amdano er pan aeth oddi yma. Bu ei thad yma ar gyfer Ffair Caernarfon; mae o’n iach. Mae ei mam yn iach. Mae ei frawd Owen Jones yn priodi ar ddydd Llun y Sulgwyn. Un o ferched Môn yw hi. Mae tad M.J. yn bwriadu mynd i ffwrdd ac yn gwrthod aros nes daw priod M.J. Cyflogodd M.J. Harry rhag ofn iddo fod heb neb. Fe gyflogodd Harry hen was Capelynant. Mae’r ceffyl yn gwella "ni a arferasom lawer lawn o foddion ac felly ni a lwyddasom". Mae’r ebol a fu’n sâl iawn â’i ysgyfaint hefyd yn mendio. Daru iddynt orffen y llafur. Adeg Ffair G’lanmai. Hauasant 9 hobaid o haidd. Gofynodd o yn ei lythyr a gai siawns am le ym Modwrdda. Dywedodd y gwr o Borthdinllaen os na chai M.J. le yn un man cai ei le yn y Berth Aur. Mae gwraig Thomas Anthony wedi’i chladdu a phlentyn arall yn y plwyf. "Yn min y ffair"; caiff Cadi wybod ei bod yn dod i Lundain ac maent heb forwyn ar hyn o bryd. Mae M.J wedi dweud llawer o ffolineb bellach. Gwelodd fod William Griffith o Gefn Eden wedi dod o Lundain"; dywedodd i’ch gweled yn dyfod or Capel ar Society sydd at run fath yn celsio dal ati o hyd. Society ddiwaethaf yr oeddym ein hynain John Jones Cil y Llidart oedd yn dyweyd mwyaf. Gofynodd Ffrancis gwestiwn iddo ’A oedd modd i ddyn fod wedi ei gyfiawnhau a hynny yn dywyll iddo ond nid oedd neb yn ateb ond ym mhen ychydig cyfododd Mrs. David ar ei thread ac y ddywedodd. Am hyny gan ein bod wedi ein cyfiawnhau drwy Ffydd.’ Y gwr ar gwraig o Bortinllaen sydd yn cofio attoch a’r Mrs. Tams ar holl gyfeillion ac yn hiraethu am eich dychweliad adref. Cyfeillion yn Bydweiliog’n cofio aftoch.Y mae Cadi ein henforwn yn bwriadu gychwyn i Lundain ddydd Llun y Sulgwyn ar ben y Goech a John Eams gyda hi. (Rhyfedd fel y mae’r amser yn myned heibio i mae yn dda gennyf ei bod yn nesau i chwi ddyfod adref. I mae hi yma yn no dywyll ac yn no ddu hebddoch chwi. Mi rwyf yn bwriadu os byw ac iach a fyddat ac os bydd y ceffyl yn ddigon lew i yrru ir Bala i’ch cyfarfod. Ni wn i, John, a ydach chwi meddwl dyfed drwy Manchester i’r Bala, mi glywais i Robt Jones yn dweuyd rhyw beth am hynny. Gofiwch fi at Mr. Edwd. Jones at wraig ai deulu i gyd. Cofiwch fi at y cyfeillion oll. Mi rwyf yn gobeithio bydd i Mr. Edwd. Jones ddyfod i Cymru i bregethu’r Efengyl. Mae hi’n ffeind yma mewn mannau ar Arglwydd yn ymweled. Richard Lewis sydd yn gorwedd o hyd, mi rwyf yn bwriadu dangos eich llythyrau iddo - Os ydych heb brynu deunydd gown i mae hynny ... mi brynais yma un, oblegid mae yn anhawdd i chwl ei ddanfon imi erbyn Association y Bala. I mae eich tad yn cofio atoch a Hary ar teulu i gyd. Gweled rwyf grefydd bur yn beth mawr ac anhawdd lawn ei dilyn a chroes hollol gig a gwaed - dywedasoch eich bod yn meddwl bod yr Arglwydd ... rhoddi mesur o’i gynnorthwyon i lefaru i hyn oedd arnaf chwant clywed pa fodd r’oedd i mae yn dda iawn gennyf glywedd. Disgwyliaf lythyr unwaith eto oddiwrthych gyn i chwi ddyfod adref.
Ychwanegwyd: LETTER. John Jones, Pen y Bryn, Edern 20 July 1792 to ? inquiring after his health. Cyfeithiad Cymraeg ohono. Cefnodwyd gan ddau ddrafft arall. Sonia yr un cyntaf am foddion (crefyddol) y teulu a’r ail a lofnodir gan Joseph Robinson yn Saesneg yn diolch am lythyr arall.


Page Language

In accord with normal archival practice in Wales, details of documents are presented in the language of the document. Where details appear in Welsh, then Welsh is the language in which the document is written; where they are in English, the document is in English.