skip to main content

Browse the archives

XM/5867/8

LLYTHYR Michael R Hughes at ei gyfyrder [William Williams, Llanllyfni] yn trafod y tywydd a’r eira ar y mynyddoedd ac mae;n cyfeirio at Mount Rainier a Mount Whitney ger Death Valley, California. Mae’n trafod y ddwy gyfrol o ’Cerddi Cymru’ gan gyfeirio at Dudno, Mynyddog, Trebor Mai, teiliwr a John Jones a fu farw yn 1899 yng Nghaernarfon. Credai i’r gyfrol gyntaf ddod allan tua 1913 tua 6 blynedd ar ôl ’Caniadau Cymru’ W Lewis Jones, Bangor. Mae’n trafod y tymor sâl am bysgod, marw Hugh Tŷ Isa. Mae’n cofio am Hugh Robert Owen a ’Wil Bach’, gwerthwr esgidiau ar y Sadwrn yn llofft yr Hall ac mae’n trafod syniad William eu bod wedi dod i Dudraw-i’r-afon o le o’r enw Ffridd Erwig, y Garn a bod gwas i’w chwaer sef Humphrey Roberts yn byw yno. Yn yr hen dafarn, Plas Dolbenmaen, y ganwyd ag y magwyd Wmphra ac `roedd ei dad Owen Roberts yn frawd i Robert Roberts, Llwyn Bedw. Yr oedd dau o feibion Wmphra yn byw ym Melin y Cim. Mae’n nodi iddo anfon llythyr ar W.J. Williams, Bontllyfni. Mae’n cyfeirio at filgi Shôn Arthur y Pant ger Pant Glas, Mrs. Evans yr Hafan a’i gwr, R.D. Evans, ?Leusa a’i thy yn y Druid, R. Jones Evans (un o lywyddion Eisteddfod Utica eleni), merch Thos. Hughes gof Pensarn, (yr hen of oedd Robert Jones). Gôf arall oedd gwr o Lanhaearn a’i wraig yn ferch i Dafydd Clwyd, Capel Ucha, Clynnog. Un arall oedd Morris Owen, brawd-yng- nghyfraith [Michael] sydd ym Methesda yn awr. Cyfeiria at Doctor Rowlands, William Jones Tyddyn Mawr (Derwin Fawr wedyn a Bryn y gwdion cyn hynny); Harry, taith llongwyr o New York i Baris, bechgyn Melin Llecheiddior a gafodd eu magu yng Nghroesor (un yn `druggist’ ar llall yn `electrician’), D.R. Daniel a’i waeledd, Y Drydd, J.H.J. golygydd Y Brython, Sam Ellis, Moelwyn, `Ap Rambler’, Index a Gabriel (ysgrifenwyr), helyntion englynion `Y Mul’ a Garn, Llew Meirion, Dolgellau, William Evan, Lockport, Illinois `Wil Talymaes’ (hen gyfaill `John W.’) ysgrifennwr da. Mae’n trafod Y Genhinen, Cylchgrawn Cymraeg neu’r Drysorfa Gwybodaeth. Daeth y rhifyn cyntaf allan o wasg Trefecca, Chwefror 1793. Pris 6d. Ei olygydd oedd Morgan ab loan Rhys/Rhus. `Cylchgrawn Morgan Rhys’ y gelwid ef ar lafar. Daeth y rhifyn olaf o wasg Ioan Daniel, Caerfyrddin. Dyn nodedig oedd Morgan o blaid addysg a chrefydd a bu iddo sefydlu ysgolion Sul. `Roedd ganddo ddiddordeb yn y Rhyfel Gartref - yn Ffrainc ac anfonodd y llywodraeth geisbyliaid i’w ddal. Dihangodd i’r Amerig yn 1794 a bu farw yn Somerset, Pa. 1804. Ni wyddai am `Llyfnwy’ sydd tua New York er y bu ymrafael rhyngddo tros ei enw a `Llyfnwy’ arall o Newcastle, Pa. Bu i’r un o Newscastle, Pa. alw ei hun yn `Ifor Llyfhwy o hynny allan. Mae’n cyfeirio at Tom Mordaf Pierce, prentis o blastrwr gyda `Dic bach y plastrwr’. Bu i Tom ddod yn fardd a llenor da ac yn bregethwr gyda’r M.C. Bu’n weinidog ar hen eglwys N. Cynhafal Jones yn Llanidloes ac yna Dolgellau. Bu’n gohebu gydag Eivion Wyn a buont yn trafod Gwilym Eryri, y bardd coll. Gohebai hefyd â D.R. Daniel a ysgrifennodd gofiant i Tom Ellis ond na chafodd ei gyhoeddi a bu iddo gyfieithu lawer o ysgrifau J. Arthur Price ond E.M.H. a gai’r clod am hynny. Mae’n trafod triciau budron cystadlu, marw Thos, Hendre Nantly (Y Mynachdy gynt) ac i’r meddyg wrthod tystysgrif i’w gladdu, (ei ferch yw gwraig Tyddyn Hen ger Melin Bryn y Gro), y radio, gorlifiad y Mississippi ac mae’n dymuno cael ei gofio at William Griffith a’i wraig.


Page Language

In accord with normal archival practice in Wales, details of documents are presented in the language of the document. Where details appear in Welsh, then Welsh is the language in which the document is written; where they are in English, the document is in English.