skip to main content

Browse the archives

XM/5867/3

LLYTHYR: Michael R. Hughes, 811 19th Avenue South, Seattle, Washington, U.S.A. at [William R. Williams, Llanllyfni] yn cyfeirio mai atodiad yw’r llythyr i’r un diwethaf. Mae’n trafod pobl fel Watkin, John W. Griffith, Mary Jones, a Margaret Ellen, ei ysgrifau yn y Drych ac `Enwogion Eifionydd’ gan gyfeirio yn arbennig at un am `Glynnog Fawr’ ac iddo ddyfynnu o awdl Eben Fardd. Bwriad y gwaith yma oedd amddiffyn Clynnog rhag ymosodiad `rhyw ddyn dwl’, ac mae’n ei chymharu gyda pethau yn yr Amerig. Mae’n trafod gohebu yn arbennig at y Drych ac ei fod wedi ysgrifennu nifer o ystoriau byrion ar gyfer cystadleuaeth ac iddo ennill yn Eisteddfod Chicago ac yn Eisteddfod Genedlaethol America. Yna soniai am lyfrau a’r rhai a gollodd mewn tan rhyw ugain mlynedd yn ôl a’r modd yr anafwyd ef. Cyfeiria at William Y Quarry yn cynorthwyo Harri Da/Bara Da/Harri Bara Da o Leyn, yng nghae’r Felingerig, i saethu cerrig ac i’r twll danio amdano ac iddo fynd yn ddall. Holai os yw chwarelwyr yn dal i lysenwi eu gilydd. Bellach nid yw ond yn casglu y Cymru O.M. Edwards a’r Drych. Ni roddai fawr o werth ar y Gwyddoniadur. Mae’n enwi cyfrolau yn ei feddiant - `Cymru’ Owen Jones, Llandudno (dwy gyfrol), `Teithiau Pennant’, `Eminent Welshmen’ Williams, `Enwogion Cymru’ Foulkes, `Eminent Welshmen’ `Asaph’, `Notable Welshmen’ J. Mardy Rees, `History of the Gwydir Family’, Sion Wyn o Wydir ger Llanrwst. Mae’n trafod argraff newydd John Morris Jones o’r geiriau `Efo’, `Awdur’ ac ymosodai ar `Geiliogod y Colegau’ am orloewi’r Gymraeg. Mae’n canmol O.M. Edwards a’i gymharu gyda D. Owen (Brutus) hen olygydd Yr Haul, ac yn cyfeirio at y Gymraeg dda yn Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan. Nid yw’n teimlo bod Ifan ab Owen [Edwards] yn gallu llenwi esgidiau ei dad, O.M. Edwards. Mae’n nodi ei fod yn cael llawer o hanes gan gyfaill o Griccieth sy’n gweithio fel saer llongau ar agerlong ac sy’n galw weithiau gyda straeon fel am Guto Bronturnor. Mae’n trafod perthynas iddo o’r enw Richard Morgan gyda mab o’r un enw. Efallai `roeddynt yn perthyn i dad Y Parch J. Morgan Jones Ty Cerrig, sef loan Glan Dulyn a aeth yn fugail i Gerrig y Drudion. Cofiai hefyd Owen Morgan Jones a gadwai siop yn Nhalysarn ac hefyd Robert Thomas yn enedigol o Glan Ddol ger Ty’n Llwyn a oedd yn ffermio ym Mhant Du, a Robert Glan Ddol gyda `R’ yn ei siarad. Holai am Wil Bach Ty Isa a P.M. Evans, hen Americanwr a rhwymwr llyfrau ym Mhenygroes ac iddo ef a Gurnal, gweinidog efo’r annibynwyr gyhoeddi papur digri. Mae’n trafod John W. Parry a’i fab Wil. Bu Wil yn Portland, Oregon a gweithiai fel `waiter’ y Mulenowah Hotel, ac yn ôl Annie merch hynaf Laura `roedd yno byth. Cyfeiria at hanes y dilyw yn Nolgarrog. Ychwanegir mewn pensil ar ddechrau’r llythyr `Son am y dwr yn Nolgarrog - 1925?’ ac mai efallai ym mis Tachwedd yr ysgrifennwyd y llythyr.


Page Language

In accord with normal archival practice in Wales, details of documents are presented in the language of the document. Where details appear in Welsh, then Welsh is the language in which the document is written; where they are in English, the document is in English.