skip to main content

Browse the archives

XM/5867/2.

LLYTHYR: Michael R. Hughes, 811 19th Avenue South, Seattle, Washington, U.S.A. at Mr. W.R. Williams, Llanllyfni yn diolch am llythyr William ac ei fod wedi ei enwi mewn llythyr at Mary Jones. Mae’n trafod ei hen ardal ac yn cyfeirio at ymweliad Silyn Roberts rhyw 10 mlynedd yn ôl hel at ddifa’r Plas Gwyn yng Nghymru, ac iddo gael hanes yr ardal pryd hynny. Magwyd Silyn Roberts ger chwarel Nant y Fron. Bu iddo hefyd gyfarfod Llewelyn Davies yn Oregon yn angladd ei chwaer Laura. Cyfeiria at Dewi Glan Dulas ac iddo synnu bod gwraig William yn hanner chwaer iddo. Disgrifiai yr adegau iddo gyfarfod á Dewi ac iddo ei weld am y tro olaf yn Terence Street, Ltica. Yn y fan honno bu iddo gyfarfod Margaret, chwaer William hefyd. Mae’n trafod gweithiau Dewi a bod Carneddog wedi gwneud apel rhai blynyddoedd yn ôl yn y Drych at Gymry’r Amerig i’ w helpu i gasglu gweithiau Dewi. `Roedd tan wedi difa llawer yn ei eiddo ond iddo anfon rhannau o amryw o i englynion ato ac iddynt ymddangos yn yr Herald i ddenu sylw John W. Griffith a’i frawd, Griffith at yr amcan i’w cyhoeddi. Mae’n dyfynnu rhai o r englynion. Cyfeiria at tyWilliam drwy ddweud beth gafodd gan merch Elias Sion Thomas sef 2 lythyr anodd i’w dehongli ond o bosib eu bod gan gwniadyddes a gwynai ar ei byd am fod Sam Ellis yn canu clod Cymru yn y Drych, yn ei "Am dro i Gymru". Bu i O. Llew Owain y Genedl roi beth o hanes y gan a’i hawdur ond dim o hanes "Plas y Cilgwyn". Mae’n trafod ei berthynas gyda D.R. Daniel o Gefnddwysarn, ger y Bala ac iddo ei cyfarfod yn Fairhaven ac yn Chicago ac ei fod yn gohebu ato yn rheolaidd. Mae’n trafod "O Nebo i’r Llan" yn Y Genedl a "Byd y Chwarelwr" ac yna clefyd y siwgr y dioddefai William ohono. Yna disgrifia ei deulu. Deuai ei wraig o Gae’r Gors a bod ganddynt dau fab, Eivion yn briod ag Americanes a Peredur a fuodd yn Ffrainc ond ni chafodd y cyfle i ymweld gyda Chymru ag i glywed yr iaith yr oeddynt yn colli diddordeb ynddi. Mae’n nodi ei fod yn dioddef o’r crydcymalau. Mae’r llythyr wedi ei farcio gyda phensil yma ag acw.


Page Language

In accord with normal archival practice in Wales, details of documents are presented in the language of the document. Where details appear in Welsh, then Welsh is the language in which the document is written; where they are in English, the document is in English.