XM/3607/47.
COPI O LYTHYR: William Hughes, Tynyffordd Efailnewydd, Pwllheli at W. Caradog Davies Town Hall, Pwllheli, ynglyn âi fab, Robert Owen Hughes sydd wedi `attestio’. Y mae’n anodd iddo wneud hebddo yn enwedig ers i’w fab Roger fynd i’r fyddin. Robert Owen sydd yn porthi ac yn gwerthu llefrith ac yn gofalu am y ffarm, gan ei fod ef (William Hughes) allan gyda’r ddau ddyrnwr. Hefyd y mae ef yn cyrraedd oed mawr - 71 mlwydd oed. Y mae yn gofyn os ydyw’n bosibl iddo (Robert Owen) felly gael ei esgusodi. Mae yn gwerthu llefrith o 4 o ffermydd, sef Goetref, Penllwyn, Hendref a Thynyffordd.