skip to main content

Browse the archives

XM/166/81.

LLYTHYR: Y Parchedig W.E. Davies, St. Luke’s Presbyterian Church, Finch, Ont, Canada, at ei gefnder. Wedi cael ei sefydlu yno y 14eg o Ebrill. Teithiasant 984 o filltiroedd yno mewn pedwar diwrnod. Y mae’r lle yn ganolog, 103 o filltiroedd i’r gorllewin o Montreal, a 50 o Ottawa, prif ddinas Canada. Mae ganddo ddwy eglwys yno ac yn pregethu tair gwaith bob Sul. Dim byd ar hyd yr wythnos ond Cor yn yr haf, a chyfarfod y bobl ifanc yn y gaeaf. Mae yn barod wedi ymweld â 60 o deuluoedd allan o 150. Maent yn rhoi pwys mawr ar ymweld yn y wlad hon. Mae’r mwyafrif yno yn Scotiaid, ychydig yn Wyddelod, ond dim ond un Cymro. Owen J. Roberts o Niwbwrch Sir Fon oed ei rhagflaenwr, yr hwn sydd wedi mynd yn ol i’r Unol Daleithau, New York State, a buont oll yn ei gwrdd sefydlu ef 133 milltir i ffwrdd y nos Iau flaenorol. Mae’n deall fod ewyrthr ei wraig, Hugh Humphreys, Nant Peris, blaenor yn Rehoboth, yn bur wael, ac yn hyderu y caiff adferiad eto. Mae John yn eistedd arholiad am Lambedr y mis hwnnw, mae’n gobeithio y bydd yn llwyddianus am mai prif ddymuniad ei dad oedd iddo fynd yn offeiriad. Yn anfon ei gofion.


Page Language

In accord with normal archival practice in Wales, details of documents are presented in the language of the document. Where details appear in Welsh, then Welsh is the language in which the document is written; where they are in English, the document is in English.