XM/3321/7.
LLYTHYR: Thomas ag Elin Jones yn Boonville Alder Creek [yr Amerig] at John Williams, ym Mhen Graig, Bodferin, Pwllheli yn diolch i’r Arglwydd am ei diriondeb tuag atynt. Maent yn diolch am y llythyr a anfonasid atynt gydag Elis Jones, ac yn falch o glywed am y diwigiadau sydd yn digwydd, yn arbennig fod eu chwaer Beth a’i phlant wedi eu galw gan yr Arglwydd. Ni chredant y gallant fynd i’w gweld am eu bod wedi mynd yn rhy hen. Hanes eu teulu yno. Buont yn adeiladu ty newydd a gostiodd £100 iddo. Hanes tywydd tymor yr haf, y cynhaeaf, a phrisiau anifeilaid a nwyddau. Sonia am y prysurdeb traffig sydd ar y gamlas gerllaw iddynt, ac mae’n disgrifio eu defnydd o blaster’ fel gwrtaeth yn y tir. Rhodda faint cyflogau i fechgyn a merched. Cawsant aeaf caled. Disgrifia’r cyfoaeth ffermio sydd yn y Gogledd a dywed fod rhai Cymry yn mynd i Galifornia. Mae yn adeg cyflogi gweision a morwynion yno. Amlinella sut mae’ bosibl i bawb gael siawns o fferm ag anifeiliaid arni trwy ddod yn rydd-ddeiliwr. Mae yno lawnder o gyfarfodydd Cymraeg a Saesneg a bu diwygiad ymysg y Wesleaid Saesnig yr hydref olaf. Cofion at amryw bobl. Hanes gwaeledd un ou cymdogion, Ann.